Protest – Gêm Ragbrofol UEFA
Merched Cymru v Israel
Ymgynnull y tu allan i Westy'r Westgate, Casnewydd –
5pm nos Iau 15 Medi
"PÊL-DROED YN UNO AC YN YSBRYDOLI YM MHALESTEINA", ISRAEL YN DINISTRIO
Yn gynharach eleni dywedodd FIFA ei fod "yn gwbl ymrwymedig i barchu hawliau dynol" ac fe roddodd hawliau dynol wrth wraidd ei statudau. Mae'n bryd i FIFA roi hyn ar waith a gweithredu yn erbyn Israel am barhau i ddinistrio cymunedau Palesteinaidd ac am wadu hawliau Palestiniaid. Mae angen cicio hiliaeth Israel allan o bêl-droed rhyngwladol.
Yn ddiweddar, cynhyrchodd FIFA fideo yn dangos y rôl gadarnhaol y gall pêl-droed ei chwarae. Saethwyd y fideo ym mhentrefi Umm Al Khair a Susiya – mae'r ddau bentref yma mewn perygl argyfyngus o gael eu dymchwel gan Israel. Mae'r ffilm gan FIFA yn cynnwys clip o'r ganolfan gymunedol a gafodd ei dinistrio gan deirw dur Israel ar 24 Awst – ychydig fisoedd ar ôl i FIFA fod yno'n ffilmio. Mae'n bryd i FIFA wneud safiad.
Mae FIFA wrthi'n ystyried ar hyn o bryd pa gamau i'w cymryd ynghylch clybiau pêl-droed Israelaidd sydd mewn aneddiadau anghyfreithlon. Does dim lle i hiliaeth a cham-drin hawliau dynol mewn pêl-droed. Mae hon yn eiliad dyngedfennol – rhaid i ni ddefnyddio'r cyfle yma i ddweud wrth FIFA am weithredu yn erbyn Cymdeithas Bêl-droed Israel. Mae'n bryd gwahardd Israel o gystadlaethau pêl-droed rhyngwladol.
Os nad ydych chi wedi gwneud hynny, ysgrifennwch at FIFA heddiw. Mae ein cyfeillion yn ymgyrch Cerdyn Coch i Hiliaeth Israel wedi creu ffurflen i'w gwneud yn hawdd i bawb anfon llythyr. CLICIWCH YMA
*********************Ymunwch â ni yng Nghasnewydd ar 15 Medi i brotestio yn erbyn cynnwys Israel yn FIFA ac UEFA****************************