Y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS
Ysgrifennydd Gwladol Cymru
15 Mai 2018
Annwyl Alun Cairns
Ysgrifennwn atoch fel ymgyrchwyr sy’n cydsefyll â Phalesteina ac ymgyrchwyr heddwch a hawliau dynol yng Nghymru, sydd wedi ein brawychu o weld Palestiniaid heb arfau, plant, meddygon a newyddiadurwyr yn cael eu lladd gan filwyr Israel yn ystod y protestiadau diweddar yn Gaza.
Ers 30 Mawrth, mae miloedd o Balestiniaid yn Gaza wedi sefydlu gwersylloedd gan brotestio i gefnogi eu hawl i ddychwelyd i’w tir a rhoi diwedd ar y meddiannu anghyfreithlon, y dwyn tir a’r degawd o warchae gan Israel. Mae’r Cenhedloedd Unedig yn rhybuddio y bydd hi’n amhosib byw yn Gaza erbyn 2020 heb weithredu brys. Fel mae pethau ar hyn o bryd, mae 97% o’r dŵr yn beryglus i’w yfed ac mae’r trydan yn diffodd am ryw 16 awr y dydd. Mae cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon, wedi datgan bod “cau Gaza yn mygu ei phobl... Mae’n fath o gosbi torfol ac mae’n rhaid cael atebolrwydd am hynny.”
Hyd yma, mae milwyr Israel wedi lladd 90 o brotestwyr heb arfau ac wedi anafu miloedd yn rhagor gyda bwledi ffrwydrol byw sy’n achosi anafiadau arswydus sy’n gallu newid bywydau pobl. Mae’r ysbytai’n cael eu llethu. Ar 14 Mai yn unig, cafodd mwy na 50 o ddinasyddion eu lladd, gan gynnwys gweithiwr meddygol a chwech o blant. Yn ôl mudiad Human Rights Watch, “Roedd milwyr Israel nid yn unig yn defnyddio grym gormodol, roedden nhw hefyd yn ôl pob golwg yn gweithredu ar orchmynion fyddai fwy neu lai yn sicrhau ymateb milwrol gwaedlyd i wrthdystiad y Palestiniaid. Y canlyniad rhagweladwy oedd anafu a lladd gwrthdystwyr ar ochr arall i ffin, gwrthdystwyr nad oedden nhw’n fygythiad enbyd i fywydau neb”. Mae’n nodedig nad oes un Israeliad wedi’i anafu, a bod y Palestiniaid wedi ymatal rhag ychwanegu at y trais er gwaetha’r ymosodiadau arnyn nhw.
Mae rhethreg Israel – mai gweithredu gan Hamas yw hyn – yn anghywir, mae hynny’n amlwg. Cafodd y gwrthdystiadau hyn eu galw a’u cydlynu gan boblogaeth gyffredin Gaza, a’u hyrwyddo felly yn helaeth ymlaen llaw, gyda Hamas yn eu cefnogi wedyn.
Gofynnwn i chi gondemnio’r gyflafan hon gan Lywodraeth Israel ar ddinasyddion heb arfau yn Gaza, gan weithio i sicrhau bod llywodraeth Prydain yn cyflawni ei dyletswyddau cyfreithiol fel trydedd wladwriaeth yn yr achos hwn o ran cynnal cyfraith ryngwladol, drwy wneud y canlynol:
- Cefnogi galwad y Cenhedloedd Unedig am ymchwiliad annibynnol ac effeithiol i ddefnydd o rym angheuol gan filwyr Israel yn erbyn dinasyddion Palesteina oedd yn arfer eu hawl i wrthdystio.
- Gweithredu ar unwaith i roi diwedd ar y gwarchae yn Gaza, sy’n anghyfreithlon ac yn fath o gosbi torfol.
- Sicrhau nad yw masnach, cyllid ac arfau’r Deyrnas Gyfunol yn cael eu defnyddio i gefnogi gweithredoedd anghyfreithlon Israel.
Yn gywir